Hafan

Mae Xcape Limited (Xcape) yn cyflwyno cynigion i ailddatblygu hen safle Gwesty Gwyliau Morgannwg ym Mhorthcawl ag adeilad fflatiau newydd, gwelliannau tirlunio, parcio ceir a chyfleusterau cysylltiedig.

Mae Xcape yn cynnig dymchwel yr adeilad Gwesty Gwyliau Morgannwg gwag a hyll a darparu cynllun fflatiau o ansawdd uchel ar y safle, a fydd yn cynnwys 54 o fflatiau un, dwy, a thair ystafell wely.  Yn bwysig, bydd oddeutu 30% o’r fflatiau’n gartrefi fforddiadwy.

Felly, mae cynlluniau Xcape yn cynrychioli cyfle sylweddol i wella ymddangosiad y safle hwn, gan gyfrannu at adfywiad ehangach Glannau Porthcawl, a darparu cartrefi newydd mawr eu hangen i bobl leol.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau drafft ar gyfer yr hen Westy Gwyliau Morgannwg, edrychwch ar ein tudalen Cynigion.  

I weld manylion llawn ein hailddatblygiad arfaethedig, gan gynnwys yr holl ddogfennau cynllunio drafft perthnasol, edrychwch ar ein tudalen Dogfennau a Lawrlwythiadau.